![]() | |
Math | adrannau anweinidogol y Llywodraeth, goruchaf lys ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5003°N 0.1281°W ![]() |
![]() | |
Y Goruchaf Lys neu Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig (Saesneg: Supreme Court of the United Kingdom neu the UK Supreme Court neu The Supreme Court neu'r UKSC) yw goruchaf lysy Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer apeliadau cyfraith sifil. Mae ei awdurdod yn gyfyngedig i Gymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig, heb gynnwys yr Alban, mewn achosion cyfraith droseddol.[1] Agorwyd ef ar y 1af o Hydref 2009, gan gymryd dros swyddogaethau barnwrol Tŷ'r Arglwyddi. Lleolir ef ar Sgwâr y Senedd (Parliament Square) yn Westminster, Llundain.